Bydd y Gwerthwr Niwtral yn cefnogi Cwsmeriaid i gaffael, rheoli a chyflawni prosiectau drwy gadwyn gyflenwi helaeth o ymgynghorwyr a gweithwyr proffesiynol sydd wedi'u rhag-fetio, ar gyfer ystod eang o wasanaethau posibl, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
Strategaethau Busnes (gan gynnwys Corfforaethol, Polisi, Archwilio a Chyllid)
Yn cwmpasu ystod o gynlluniau busnes strategol a gweithredol a gofynion strategaeth fewnol ac allanol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Cynllunio Busnes; Rheoli Risg a Pharhad Busnes; Rheoli Data a Dadansoddeg (e.e. llywodraethu data, offer deallusrwydd busnes, dangosfyrddau perfformiad);
- Cynllunio Corfforaethol, Perfformiad a Chyflawni; Adolygu a Gweithredu Polisi, gan gynnwys cyllid, Sicrwydd Archwilio, Rheoli'r Trysorlys, pensiynau, cyllidebau, rhagolygon, cyngor a rheolaeth.
Gwasanaeth Rheoli Newid a Thrawsnewid Sefydliadol
Yn cwmpasu ystod eang o Wasanaethau Rheoli Newid a Thrawsnewid Sefydliadol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Trawsnewid a Symleiddio Gwasanaethau, Modelau Cyflawni amgen, strategaethau, polisïau, prosesau, strategaethau adfywio, uwchgynllunio, datblygu economaidd, ac Adnoddau Dynol a phobl (ac eithrio asiantaethau cyflogaeth).
Gwasanaethau Ymgynghori Adeiladu (Ac eithrio Gwaith)
Yn cwmpasu ystod eang o wasanaethau proffesiynol i gefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau adeiladu, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, wasanaethau sy'n ymwneud â:
- Pensaernïaeth, rheoli adeiladu, peirianneg sifil, ymgynghori costau, costio, ecoleg, dylunio mecanyddol a thrydanol, cynllunio, gwasanaethau cyfreithiol, rheoli prosiectau, peirianneg strwythurol, arolygon a dylunio trefol.
Caffael / Gwerth Cymdeithasol
Yn cwmpasu ystod eang o wasanaethau Caffael, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Allanoli, Rheoli Perthnasoedd â Chyflenwyr, Cadwyn Gyflenwi a Logisteg, Rheoli Rhanddeiliaid, Rheoli Categorïau, Comisiynu a chyflawni Gwerth Cymdeithasol.
Marchnata, y Cyfryngau a Chyfathrebu
Yn cwmpasu pob agwedd ar wasanaethau marchnata, y cyfryngau a chyfathrebu, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddylunio creadigol, cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus ac ymgysylltu â'r cyfryngau. Mae hefyd yn cefnogi strategaethau corfforaethol a rhai penodol i wasanaethau, gan gynnwys ymgyrchoedd, ymgynghori, gwasanaethau creadigol, digidol ac animeiddio.
TGCh, Trawsnewid a Newid
Yn cwmpasu pob agwedd ar TGCh, Trawsnewid a Newid, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Meddalwedd a thrwyddedau (e.e. offer dadansoddeg, platfformau rheoli prosiectau), caledwedd, seilwaith, rhwydweithiau, a rheoli a chynnal systemau, mynediad at wasanaethau a chymwysiadau technoleg sy'n ymwneud â thelathrebu;
- Optimeiddio, Trawsnewid Digidol a Newid, gan gynnwys opsiwn dylunio a chyflenwi ar gyfer gwasanaethau ymgynghorwyr arbenigol (e.e. darparu offeryn cwmwl neu feddalwedd dadansoddi perfformiad ochr yn ochr ag ymgynghori strategol);
- Offer diagnostig/monitro ar gyfer adrodd ar berfformiad (Seiberddiogelwch, Seilwaith Cwmwl, Dadansoddeg Data, Strategaeth TGCh), a Chynhwysiant Digidol (sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau digidol, yn enwedig i grwpiau agored i niwed).
Addysg a Dysgu
Yn cwmpasu gwasanaethau i gefnogi pob cam o addysg a dysgu, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, addysg cyn ysgol, addysg oedolion ac addysg uwch, yn ogystal â hyfforddiant pellach. Mae'n canolbwyntio ar ddatblygu strategol, gweithredu polisi, hyfforddiant, methodolegau addysgu arloesol gan gynnwys ymchwil academaidd, dylunio'r cwricwlwm, e-ddysgu, rhaglenni ymddygiad a chymorth ar gyfer anghenion addysgol arbennig.
Amgylcheddol
Yn cwmpasu Gwasanaethau Amgylcheddol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- ystod eang o wasanaethau arbenigol, gan gynnwys cynllunio bioamrywiaeth, rheoli gwastraff, addasu i'r hinsawdd, ecoleg, cydymffurfio â rheoliadau, canllawiau, asesiadau effaith, bioamrywiaeth, cadwraeth, perygl llifogydd, gwasanaethau amaethyddol a pheirianneg ddaear;
- Asesiadau o'r Effaith Amgylcheddol.
Ynni a Datgarboneiddio
Yn cwmpasu Gwasanaethau Ynni a Datgarboneiddio, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Gynaliadwyedd, Mentrau Sero Net, gwrthbwyso carbon a thechnolegau gwyrdd.
Iechyd y Cyhoedd, Gofal a Llesiant
Yn cwmpasu iechyd y cyhoedd, gofal a llesiant, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd (e.e. hybu iechyd, epidemioleg, iechyd cymunedol) ac Iechyd Meddwl a Llesiant (e.e. rhaglenni llesiant staff, cymorth iechyd meddwl cymunedol).
Gofal Cymdeithasol
Yn cwmpasu gofal cymdeithasol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Ofal Oedolion a Gwasanaethau Plant, offer gofal cymdeithasol ategol, Comisiynu a Dadgomisiynu, Rhaglenni Allgymorth, Diogelu a Chynhwysiant Cymdeithasol.
Masnacheiddio a Gwasanaethau Cyhoeddus
Yn cwmpasu masnacheiddio a gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Llywodraethu a Gwasanaethau Democrataidd, Etholiadau (e.e. logisteg etholiadau, cymorth i gynghorwyr), Llywodraethu Gwybodaeth (e.e. cydymffurfio â Rhyddid Gwybodaeth, diogelu data, rheoli cofnodion);
- Gwasanaethau Cwsmeriaid a Dinasyddion, Cyswllt Cwsmeriaid a Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) (e.e. dylunio canolfannau cyswllt, platfformau ymgysylltu â dinasyddion).
Cynllunio at Argyfwng a Gwydnwch
Yn cwmpasu cynllunio at argyfwng a gwydnwch, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Gymorth i'r Gwasanaethau Brys (e.e. cynllunio, cydlynu ymateb, hyfforddiant gwydnwch), Systemau Adfer ar ôl Trychineb a'u Profi, a rheoli risg.
Rheoli Cyfleusterau
Yn cwmpasu rheoli cyfleusterau, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gefnogi swyddogaethau busnes craidd drwy reoli gwasanaethau ar draws adeiladau ac eiddo, gan gynnwys gweithgareddau masnachol neu breswyl.
Gwasanaethau Cyfreithiol / Y Gyfraith
Yn cwmpasu gwasanaethau cyfreithiol a gwasanaethau'r gyfraith, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, wasanaethau a chyngor cyfreithiol proffesiynol, timau prosiect neu weithwyr proffesiynol arbenigol, gorfodi'r gyfraith, cymorth gwrth-dwyll, gwaith fforensig a gwasanaethau cysylltiedig eraill.
Arloesi a Thechnoleg Artiffisial
Yn cwmpasu ystod eang o wasanaethau posibl mewn perthynas ag arloesi a thechnoleg artiffisial, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, atebion arloesol i ofynion prosiectau, deallusrwydd artiffisial, realiti rhithwir ac awtomeiddio deallusrwydd artiffisial (lle bo'n berthnasol i ddarparu gwasanaethau).
Trafnidiaeth a Phriffyrdd, Fflyd
Yn cwmpasu gwasanaethau trafnidiaeth, priffyrdd a fflyd, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Gynllunio a Seilwaith Trafnidiaeth (e.e. strategaeth trafnidiaeth gyhoeddus, ymgynghori ar gynnal a chadw ffyrdd), Rheoli Fflyd, datgarboneiddio fflyd (e.e. cynllunio'r newid i gerbydau trydan), a chymorth caffael fflyd.
